SL(6)661 – Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i sawl darn o is-ddeddfwriaeth sy'n gweithredu, ac yn darparu manylion y prosesau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 ("Deddf 2024").

Maent yn gwneud cywiriadau i'r rheoliadau a ganlyn mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiadau:

a.     Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau cyn gwneud cais a gweithdrefnau gwneud cais ar gyfer ceisiadau am gydsyniad seilwaith o dan Ddeddf 2024;

b.    Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025, sy'n darparu ar gyfer gweithdrefnau cyn gwneud cais, gwneud cais ac archwilio cais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan Ddeddf 2024 sy’n cynnwys cais am gaffael yn orfodol; a

c.     Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer archwilio ceisiadau am gydsyniad seilwaith a wneir o dan Ddeddf 2024.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2(1), yn y testun Saesneg, mae teitl Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 wedi'i nodi'n anghywir oherwydd bod y flwyddyn “2025” ar goll.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud cywiriadau i Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025.

Mae’r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiad ar y Rheoliadau hynny, llawer ohonynt yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nhw mewn offeryn diwygio, yn cael sylw i raddau helaeth gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 2(2)(a) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol y diffiniad o “datblygiad AEA” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 fel bod y cyfeiriadau llawn at Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, fel y'u defnyddir yn y diffiniad hwnnw, yn cael eu newid i'r termau a ddiffinnir ar gyfer y Rheoliadau hynny a ddarperir yn y rheoliad 2(1) hwnnw, sef “o’r Rheoliadau AEA Cynllunio”” ac “o’r Rheoliadau AEA Morol” yn y drefn honno.

Mae hyn mewn ymateb i bwynt adrodd 2 o adroddiad y Pwyllgor y cyfeirir ato uchod. Fodd bynnag, nododd y pwynt adrodd hwnnw hefyd fod yr un cyfeiriadau llawn at Reoliadau 2017 a 2007, yn hytrach na'r termau diffiniedig, yn cael eu defnyddio yn y diffiniad "o’r Rheoliadau AEA" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025.

Nodir, yn wahanol i'r diffiniad o “datblygiad AEA”, nad yw'r diffiniad “o’r Rheoliadau AEA” wedi'i gywiro gan y Rheoliadau hyn yn unol â'r pwynt adrodd perthnasol hwnnw.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Tynnodd pwynt adrodd 22 o adroddiad y Pwyllgor ar Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 sylw at wahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â’r drefn rhifo paragraffau yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny, yn y testun sy'n dilyn y pennawd 'Dehongli’r Tabl'.

Yn y testun Saesneg, mae'r diffiniad o “Distribution Network Operators” yn ymddangos ym mharagraff (g), ond yn y testun Cymraeg, nid oes paragraff (g), felly mae'r diffiniad yn ymddangos ym mharagraff (f) yn syth ar ôl y diffiniad o “maes awyr”.

Nid yw'n ymddangos bod rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi mynd i'r afael â'r anghysondeb hwn.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Tachwedd 2025